Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol
27 Ebrill 2022, 12.15pm
Cyfarfod ar-lein drwy Microsoft Teams
Yn bresennol
Russell George AS
Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi.
Altaf Hussain AS
David Rees AS
Greg Pycroft, Ymchwil Canser Cymru
Charlotte Morgan, Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru
Gemma Roberts, Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru
James Black, Sefydliad Fraser of Allander
Ellis Smith, Swyddfa Russell George AS
Rachel Burr, Diabetes UK Cymru
Kate Roberts, Elusen Tiwmor yr Ymennydd
Rachel MacManus, Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru
Teresa Karran, Cancer Research UK
Ryland Doyle, Staff Cymorth yr Aelodau
Jonathan Roden, Sefydliad Prydeinig y Galon yr Alban
Andy Glyde, Cancer Research UK
Keith Lloyd, Prifysgol Abertawe
Delyth Morgan, ESNR – Is-adran Trawsnewid Diwydiannol
Rhodri Davies, Ymchwil Canser Cymru
Joe Kirwin, Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas
Rohan Bundell, Cymdeithas Elusennau Ymchwil Meddygol
Mike Larvin, Prifysgol Bangor
Rebecca Miller, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol
Christopher George, Prifysgol Abertawe
Jonathan Moore, Prifysgol Bangor
Lynne Grundy, Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Charlotte Chambers, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Angie Contestabile, Gofal Canser Tenovus
Andrew Godkin, Prifysgol Caerdydd
Dr Lee Campbell, Ymchwil Canser Cymru
Dan Rose, Swyddfa Carolyn Thomas AS
Michael Bowdery, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Steve Aicheler, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Katie Till, Cancer Research UK
Mathew Norman, Diabetes UK Cymru
Hannah O'Mahoney, Gofal Canser Tenovus
Carys Thomas, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Matt O'Grady, Y Gymdeithas Strôc
Pushpinder Mangat, Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Eitem 1 |
Croeso a chyflwyniadau. |
|
|
|
Croesawodd Russell George AS, y Cadeirydd, y rhai a oedd yn bresennol i'r cyfarfod, ynghyd â’r siaradwyr.
Rhoddodd gyflwyniad byr i'r agenda a oedd yn mynd i'r afael â'r thema Effaith economaidd ymchwil feddygol a ariennir gan elusen yng Nghymru a gwnaeth sylwadau ar berthynas yr adroddiad â gwaith presennol y Grŵp Trawsbleidiol a gwaith sydd i ddod.
Dywedodd wrth bawb y byddai Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, yn ymuno â’r cyfarfod ac yn cyfrannu. Byddai’r rhai a oedd yn bresennol yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i’r holl siaradwyr.
|
Eitem 2 |
Cyflwyniad: Effaith economaidd ymchwil feddygol a ariennir gan elusen yng Nghymru
|
|
James Black, Cymrawd Cyfnewid Gwybodaeth Sefydliad Fraser of Allander, Prifysgol Strathclyde
|
|
Cyflwynodd y Cadeirydd y siaradwr cyntaf, James Black (JB), Cymrawd Cyfnewid Gwybodaeth yn Sefydliad Fraser of Allander a gwahoddodd James i roi ei gyflwyniad (bydd sleidiau’r cyflwyniad yn cael eu rhannu ar wahân).
|
|
|
Eitem 3 |
Cyflwyniad: Sut y gall Llywodraeth Cymru fedi manteision economaidd ymchwil feddygol yng Nghymru
|
|
Gemma Roberts, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru (BHF Cymru)
|
|
Croesawodd y Cadeirydd yr ail siaradwr, Gemma Roberts (GR) o BHF Cymru a gwahoddodd Gemma i roi ei chyflwyniad (bydd sleidiau’r cyflwyniad yn cael eu rhannu ar wahân).
|
Eitem 4 |
Sesiwn holi ac ateb
|
|
Gan fod ychydig o oedi cyn i’r Gweinidog gyrraedd, daeth y Cadeirydd â’r sesiwn holi ac ateb ymlaen a gwahoddodd y rhai a oedd yn bresennol i ofyn eu cwestiynau.
|
|
Gofynnodd yr Athro Keith Lloyd (Deon Gweithredol a Dirprwy Is-ganghellor y Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd, Prifysgol Abertawe) am y cyfnod o amser a gwmpesir gan yr adroddiad effaith. Gwnaeth sylwadau am fethodoleg yr adroddiad effaith a’r gwahanol ffyrdd o fesur effaith a allai arwain at gyfrifo gwahanol werthoedd - mae Prifysgol Abertawe yn defnyddio canllawiau Llyfr Gwyrdd y Trysorlys.
Dywedodd JB mai 2019 oedd y flwyddyn a ddewiswyd ar gyfer y darn hwn o waith oherwydd argaeledd data.
|
|
Gofynnodd y Cadeirydd gwestiwn ynghylch y set ddata goll y soniodd JB amdani yn ei gyflwyniad.
Dywedodd JB wrth bawb mai tabl mewnbwn/allbwn economaidd yr oedd yr holl wledydd heblaw Cymru yn ei gynhyrchu oedd y set ddata goll. Mae’n deall bod Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i’r mater. Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r Grŵp Trawsbleidiol yn mynd ar drywydd y mater gyda Llywodraeth Cymru yn dilyn y cyfarfod.
|
|
Mynegodd yr Athro Andrew Godkin (Prifysgol Caerdydd) ei bryderon nad yw ymchwil feddygol yng Nghymru yn ddeniadol i gyllidwyr a bod diffyg manteision cystadleuol iddo, e.e. canolfan ymchwil biofeddygol. Roedd yn methu deall pam nad yw Prifysgolion Cymru yn defnyddio eu dylanwad i gyflwyno achos i Lywodraeth Cymru a dennu cyllid ychwanegol.
|
Eitem 5 |
Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
|
|
Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog i’r cyfarfod a’i wahodd i ymateb ar ran Llywodraeth Cymru.
|
|
Dywedodd y Gweinidog fod ei bortffolio’n cynnwys gwyddorau bywyd, ymchwil ac arloesi, yn ogystal â’r economi. Roedd yn croesawu'r gwahoddiad i siarad â'r Grŵp Trawsbleidiol.
Roedd sylwadau'r Gweinidog yn ymwneud ag amrywiaeth o faterion ynghylch ymchwil feddygol; gwaith ymchwil a datblygu; a chynyddu effaith – yn nhermau economaidd ac iechyd y cyhoedd, ar ôl y pandemig.
Pwysleisiodd fod y cwestiwn o gynnal prifysgolion fel peiriannau ymchwil yn un y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i roi sylw iddo.
Mae am gymhwyso ymchwil a gwireddu gwerth economaidd i'r genedl. Gobeithio bod cyfleoedd i weithio gydag elusennau ymchwil meddygol.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau mwy o weithgarwch ymchwil a datblygu ledled Cymru, a thynnwyd sylw at adroddiad KMPG 2020 ar effaith a gwerth gweithgarwch ymchwil o fewn GIG Cymru.
Tynnodd y Gweinidog sylw hefyd at y gweithgarwch a gynhaliwyd i hyrwyddo gwaith ymchwil Cymru ar lefel y DU, gan gynnwys ymdrechion i lobïo Llywodraeth y DU.
|
|
Diolchodd y Cadeirydd i'r Gweinidog am ei sylwadau, a gwahoddodd gwestiynau a sylwadau gan y rhai a oedd yn bresennol.
|
|
Gofynnodd Gemma Roberts (BHF Cymru) gwestiwn am gyllid ar gyfer gwaith ymchwil yng Nghymru, beth yw dichonoldeb sicrhau buddsoddiad ymlaen llaw?
|
|
Gofynnodd yr Athro Keith Lloyd (Prifysgol Abertawe) am y camau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i lobïo cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru?
|
|
Gwnaeth Dr Lee Campbell (Ymchwil Canser Cymru) sylw ar y rhwystrau i gynnal gwaith ymchwil yng Nghymru, sy’n gwneud cenedl sy’n ymddangos yn ddeniadol, yn fach ac yn gryno, yn annichonadwy. Mae gorfod negodi a chymeradwyo contractau gwasanaeth a threialon clinigol, gyda byrddau iechyd lluosog, yn hytrach nag unwaith i Gymru yn enghraifft o brosesau sy’n rhwystro cynnydd.
|
|
Ymatebodd y Gweinidog i gwestiynau a sylwadau. Mewn ymateb i Dr Campbell cytunodd fod angen edrych ar brosesau yn bwrpasol. Nid oedd neb am rwystro gwaith ymchwil rhag digwydd na chael ei ddenu i Gymru.
Mewn ymateb i’r ddau gwestiwn, teimlai fod mater buddsoddi yn gysylltiedig â denu mwy o gyllid, a sut i gyflawni hynny. Dywedodd wrth y Grŵp Trawsbleidiol fod Llywodraeth Cymru, ar draws portffolios lluosog, gan gynnwys yr Economi, ac Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn adolygu'r Strategaeth Ymchwil ac Arloesi gyda'r bwriad o ymgynghori. Dywedodd y Gweinidog y byddai'n darparu nodyn i'r Cadeirydd pan fydd y Strategaeth ddrafft ar gael i'r Grŵp Trawsbleidiol ymateb iddi a chyfrannu eu barn.
Diolchodd y Cadeirydd i'r Gweinidog am ei sylwadau a'i ymateb. Diolchodd y Gweinidog i'r Cadeirydd a'r cyfranwyr cyn gorfod gadael y cyfarfod.
|
Eitem 6 |
Camau gweithredu a’r camau nesaf |
|
|
|
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyfraniadau, a chroesawodd sylwadau terfynol y rhai a oedd yn bresennol, gan gynnwys unrhyw gwestiynau y dylai'r Grŵp Trawsblediol eu gofyn i'r Gweinidog, a Llywodraeth Cymru, ynghyd â chopi o gofnodion y cyfarfod y disgwylir i'r Ysgrifenyddiaeth eu cynhyrchu a'u dosbarthu.
Awgrymodd Gemma Roberts (BHF Cymru) y dylid gofyn i’r Gweinidog a fydd arian ychwanegol yn dod yn sgil y Strategaeth Ymchwil ac Arloesi newydd?
Mynegodd Altaf Hussain AS ei bryder ynghylch yr anhawster yr oedd yn ei wynebu o ran datblygu blaengaredd llawfeddygol newydd, ac roedd am wybod pa gymorth oedd ar gael i helpu unigolion wneud hynny.
Awgrymodd Matt Norman (Diabetes UK) y dylid gofyn i’r Gweinidog am wybodaeth ychwanegol a manylion ynghylch y trafodaethau y mae ef a’i adran wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cymorth ar gyfer ymchwil yng Nghymru.
Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n ysgrifennu'n ffurfiol at bwyllgorau portffolio perthnasol eraill i ddosbarthu'r cofnodion a gwybodaeth am y cyfarfod hwn ac i godi ymwybyddiaeth o'r Strategaeth Ymchwil ac Arloesi ddrafft sydd ar ddod.
Ychwanegodd y Cadeirydd y bydd angen i gyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol yn y dyfodol ganfod barn ynghylch y Strategaeth ddrafft pan fydd ar gael i wneud sylwadau arni.
|
|
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am fod yn bresennol a daeth â’r cyfarfod i ben.
|
|
Daeth y cyfarfod i ben am 1.15pm |